Galwad am wybodaeth – Cynigion cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2014-15

Mae pwyllgorau Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn galw am wybodaeth i gynorthwyo gyda’r gwaith o graffu ar Gynigion Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2014-15. Mae gennym ddiddordeb mewn ymchwilio i’r disgwyliadau o ran cyllideb 2014-15, gan gynnwys parodrwydd ariannol ar gyfer blwyddyn 2014-15 ac effaith cyllideb 2013-14.  Byddwn hefyd yn ystyried y defnydd o adnoddau gan Lywodraeth Cymru ar gyfer mesurau gwario ataliol.

Nid ydym yn gwybod ar hyn o bryd beth fydd cynigion y gyllideb ddrafft, gan na fyddant yn cael eu cyhoeddi tan fis Hydref 2013. Fodd bynnag, cyhoeddwyd dyraniadau dangosol ar gyfer blwyddyn ariannol 2014-15 yng Nghyllideb Derfynol 2013-14, a gafodd eu datgan eto yng Nghyllideb Atodol 2013-14 a gyhoeddwyd yn ddiweddar.

Nodwyd pedwar cwestiwn penodol gennym yn y papur hwn. Gallwch ateb unrhyw un neu bob un o’r cwestiynau, neu gallwch roi gwybod i ni am eich pryderon a’ch disgwyliadau o ran y gyllideb ddrafft yn gyffredinol.

Mae’r Pwyllgor Cyllid yn edrych ar gyllideb Llywodraeth Cymru o safbwynt strategol a chyffredinol. Rydym hefyd yn cydweithio â phwyllgorau eraill y Cynulliad i sicrhau y caiff cynigion ar gyfer portffolios Gweinidogol penodol eu hystyried yn fanwl. Bydd y pwyllgorau yn cynnal sesiynau i ganolbwyntio ar dystiolaeth gan y Gweinidogion perthnasol er mwyn archwilio i’r agweddau ar y gyllideb sydd o fewn eu cylchoedd gwaith hwy, ac wedyn yn cyflwyno adroddiad i’r Pwyllgor Cyllid, gan amlinellu unrhyw bryderon sydd ganddynt.

 

Cwestiynau’r ymgynghoriad 

1.   Beth, yn eich barn chi, fu effaith cyllideb 2013-14 Llywodraeth Cymru?

2.   Gan edrych ar y dyraniadau cyllideb dangosol ar gyfer 2014-15, a oes gennych unrhyw bryderon o safbwynt strategol a chyffredinol, neu ynglŷn ag unrhyw feysydd penodol?

3.   Pa ddisgwyliadau sydd gennych o gynigion cyllideb ddrafft 2014-15? Pa mor barod yn ariannol yw’ch sefydliad ar gyfer blwyddyn ariannol 2014-15, a pha mor gadarn yw’ch gallu i gynllunio ar gyfer blynyddoedd i ddod?

4.   Beth yw eich barn ar ddull Llywodraeth Cymru o wario ataliol a sut y caiff hyn ei gynrychioli yn eich dyraniad o adnoddau (os yw’n briodol)?

Ystyr ‘gwario penodol’ yw ‘gwario sy’n canolbwyntio ar atal problemau ac sy’n lleddfu galw ar wasanaethau yn y dyfodol drwy ymyrryd yn gynnar’

 

 

 

 

 

Datgelu Gwybodaeth

 

Dylai tystion fod yn ymwybodol y caiff unrhyw dystiolaeth ysgrifenedig a gyflwynir i’r Pwyllgor ei thrin fel eiddo’r Pwyllgor. Bwriad y Pwyllgor yw cyhoeddi papurau ysgrifenedig ar ei wefan, ac mae’n bosibl y byddant yn cael eu cyhoeddi gyda’r adroddiad. Ni fydd y Cynulliad Cenedlaethol yn cyhoeddi gwybodaeth yr ystyrir ei bod yn ddata personol.

 

Fodd bynnag, pe bai cais am wybodaeth yn cael ei gyflwyno o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, gallai fod angen datgelu’r wybodaeth a ddarparwyd gennych.  Gall hyn gynnwys gwybodaeth a ddilëwyd cyn hynny gan y Cynulliad Cenedlaethol at ddibenion cyhoeddi.

 

Os byddwch yn darparu unrhyw wybodaeth, ac eithrio data personol, nad yw’n addas i’w datgelu i’r cyhoedd yn eich barn chi, neu os nad ydych am ddatgelu’r ffaith mai chi yw awdur y dystiolaeth dan sylw, mae’n rhaid ichi nodi hyn yn glir, a’ch cyfrifoldeb chi yw nodi pa rannau na ddylid eu cyhoeddi a rhoi dadl resymol dros hyn. Bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn ystyried hyn wrth gyhoeddi gwybodaeth neu wrth ymateb i geisiadau am wybodaeth.

 

 

Darparu gwybodaeth i’r Pwyllgor

 

Gwahoddir pawb sydd â diddordeb i gyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig i Glerc y Pwyllgor Cyllid i gyrraedd erbyn dydd Gwener, 13 Medi 2013 fan bellaf. Os ydych yn dymuno cyfrannu ond eich bod yn pryderu na allwch wneud hynny erbyn y dyddiad cau, dylech siarad â Chlerc y Pwyllgor ar y rhif029 2089 8409.

 

Gellir cael rhagor o wybodaeth am y Pwyllgor Cyllid a’i alwad am wybodaeth yn: www.cynulliadcymru.org

 

Yn gywir

 

Jocelyn Davies

Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid

 


Atodiad 1 - Gwybodaeth gefndir

 

Pwy ydyn ni?

Un o bwyllgorau trawsbleidiol y Cynulliad Cenedlaethol yw’r Pwyllgor Cyllid, sy’n cynnwys Aelodau o bob un o’r pedair plaid wleidyddol sydd wedi’u cynrychioli yn y Cynulliad. 

Nid yw’r Pwyllgor yn rhan o Lywodraeth Cymru.  Yn hytrach, mae’r Pwyllgor yn gyfrifol am adrodd ar gynigion sy’n cael eu gosod gerbron y Cynulliad gan Weinidogion Cymru sy’n ymwneud â defnyddio adnoddau.  

Pwy yw’r Pwyllgorau eraill sy’n craffu ar y gyllideb?

Y Pwyllgorau eraill sy’n craffu ar y gyllideb yw:

 

Beth yw cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru?

 

Rhaid i gynigion y gyllideb ddrafft gynnwys manylion ynghylch faint o adnoddau y mae Llywodraeth Cymru yn cynnig eu defnyddio yn ystod y flwyddyn ariannol ddilynol a ffigurau dangosol ar gyfer y ddwy flwyddyn ariannol ar ôl hynny. Yn fwy penodol, dylai amlinellu gwybodaeth ynghylch:

 

·         Yr adnoddau sy’n cael eu defnyddio gan Lywodraeth Cymru, Comisiwn y Cynulliad, yr Archwilydd Cyffredinol a’r Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus.

 

·         Incwm sydd i gael ei gadw gan y sefydliadau hynny (yn hytrach na chael ei ildio i Gronfa Gyfunol Cymru).

 

·         Yr arian parod sydd i’w dynnu o Gronfa Gyfunol Cymru gan y sefydliadau hynny.

Dros y blynyddoedd diwethaf, mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi darparu dogfen naratif sy’n rhoi eglurhad pellach o’r dyraniadau manwl i adrannau’r Llywodraeth, yn ogystal â chronfeydd wrth gefn a dyraniadau cyffredinol eraill.

 

 

 

 

 

 

Pam nad ydym yn cynnal yr ymgynghoriad hwn ar ôl i gynigion cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru gael eu cyhoeddi?

Ni fydd ymateb i’r ymgynghoriad hwn yn eithrio rhanddeiliaid rhag hefyd ddarparu gwybodaeth, tystiolaeth, pryderon ac awgrymiadau ynghylch meysydd craffu posibl i bwyllgorau Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar ôl i’r cynigion ynghylch cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru gael eu cyhoeddi (ar 8 Hydref 2013).

Fodd bynnag, fel arfer bydd pwyllgorau yn dechrau ar y gwaith o graffu ar waith Gweinidogion y Llywodraeth ynghylch cynnwys y gyllideb ddrafft wythnos neu bythefnos ar ôl iddi gael ei chyhoeddi, gyda’r bwriad o gyflwyno eu casgliadau i’r Pwyllgor Cyllid ddiwedd mis Hydref. Mae’n ofynnol i’r Pwyllgor Cyllid gyflwyno ei adroddiad ei hun ar y gyllideb ddrafft erbyn 12 Tachwedd.

Golyga hyn fod yr amser sydd ar gael i randdeiliaid leisio eu pryderon i’r pwyllgorau yn brin fel arfer (wythnos neu ddwy). Wrth ymgynghori yn awr, gobeithiwn y bydd gan randdeiliaid fwy o amser i ystyried effaith bosibl y gyllideb.

Beth yw’r dyraniadau dangosol ar gyfer 2014-15?

 

Gellir lawrlwytho Cyllideb Derfynol Llywodraeth Cymru 2013-14 – gan gynnwys dyraniadau dangosol ar gyfer 2014-15 – a’r dogfennau esboniadol yma:

http://wales.gov.uk/docs/caecd/publications/121214finalbudgetnov2012.pdf

 

Gellir gweld adroddiad cynnydd diweddaraf Llywodraeth Cymru ar y Rhaglen Lywodraethu yma:

http://wales.gov.uk/about/programmeforgov/;jsessionid=4CC7D392402B1B3C211BDB2EF6C9F19A?status=closed&lang=en